Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

08/03/2018

Pencampwr y Gweithle - Gofalwyr Cymru



Mae 1 o bob 9 o bobl yn cyfuno gwaith gyda gofalu am rhywun sy'n annwyl iddynt. Llawer ohonynt heb syniad ble i fynd am gymorth. Fel Pencampwr y Gweithle, chi fydd y cysylltiad hanfodol rhwng Carers Wales a'ch cydweithwyr. Chi fydd yn codi ymwybyddiaeth am Carers Wales yn eich gweithle. Fe wnewch hyn drwy hyrwyddo digwyddiadau ac ymgyrchoedd a fyddwch yn gallu cyfeirio y rhai sy'n chwilio am gefnogaeth atom ac at y gwasanaeth arbenigol sydd ar gael. Gallwch wneud hyn drwy osod posteri yn eich ystafell staff sy'n hysbysebu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth genedlaethol fel Wythnos y Gofalwyr a Diwrnod Hawliau Gofalwyr. Rydych yn adnabod eich gweithle a'ch cydweithwyr yn well neb ac fe fyddwn yn falch iawn o gael eich syniadau ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau fel Dal i Fyny gyda Gofalwyr neu i redeg stondin gwybodaeth amdanom. Rhowch wybod i ni am eich syniadau.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com