Rydym yn chwilio am fyfyrwyr i gefnogi gofalwyr di-dâl yn
eu lleoliad prifysgol. Gellir gwneud hyn trwy osod posteri a dosbarthu taflenni
er mwyn adnabod gofalwyr yn y Brifysgol. Gallech drefnu clwb brecwast neu roi
cyhoeddusrwydd i'n hymgyrchoedd. Mae gofalwyr yn bobl sy'n gofalu am deulu neu
ffrindiau sy'n sâl, yr henoed neu'r anabl. Fel Pencampwr, gallech ddod â
gofalwyr at ei gilydd sy'n astudio yn eich Prifysgol fel nad ydynt yn teimlo'n
unig neu'n ynysig. Bydd gennych y wybodaeth a'r profiad i'w cefnogi a'u
cyfeirio at Ofalwyr Cymru fel eu bod yn cael y cyngor gorau posibl. Mae'n gyfle
i ymarfer a datblygu sgiliau personol, cyfathrebu a rhyngbersonol, rheoli amser
a chreadigrwydd. Mae hwn yn gyfle hefyd i gael gwell dealltwriaeth o anghenion
gofalwyr.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com