Mae ein Gwasanaeth Cefnogi'r Cyfnod Pontio yn darparu
gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ddiduedd a chyfrinachol yn ystod y cyfnod
pontio rhwng yr ysgol a bywyd fel oedolyn neu addysg barhaus. Mae'r gwasanaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr
plant a phobl ifanc ar y sbectrwm awtistig ac i bobl ifanc awtistig eu hunain.
Bydd gwirfoddolwyr yn darparu cymorth dros y ffôn ac e-bost o’u cartrefi eu
hunain.
Fel Gwirfoddolwr, fe fyddwch chi’n gwneud y canlynol:
• Ffonio ac e-bostio rhieni, gofalwyr a phobl ifanc
awtistig sydd wedi cysylltu â gwasanaeth cefnogi’r cyfnod pontio
• Cynnig gwybodaeth a chyngor cywir a chyfredol am
weithdrefnau pontio, y ddarpariaeth a hawliau
• Helpu rhieni a phobl ifanc awtistig i gael darpariaeth
briodol ar ôl gadael yr ysgol, a darparu gwybodaeth am faterion perthnasol
• Gwneud gwaith achos a all gynnwys casglu, darllen a
dadansoddi dogfennau a gwneud gwaith ymchwil
• Helpu rhieni, gofalwyr a phobl ifanc awtistig i
ysgrifennu llythyrau ac i baratoi ar gyfer cyfarfod
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com