Eleni, unwaith eto, bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn
rhedeg proseict cyffrous a fydd yn cynnig cyfle i wirfoddoli ar fynydd uchaf
Cymru!
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn edrych i ychwanegu
gwirfoddolwyr newydd i’r tîm presennol o Wardeniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa. Mae
aelodau’r tîm yn cynnig gwyneb cyfeillgar a chroesawgar i’r cyhoedd ar lwybrau
prysuraf Yr Wyddfa, y copa a’r meysydd parcio. Mae’r rôl yn cynnwys darparu
gwybodaeth, cyngor ar ddewis llwybr a diogelwch ar y mynydd; cadw sbwriel oddi
ar y llwybrau prysuraf a chyflawni gwaith cynnal a chadw mân ar y llwybrau.
Eleni bydd cyfle i roi cyngor i gerddwyr ar y Fan
Wybodaeth newydd ar droed rhai o lwybrau'r Wyddfa.
Dyddiad Cau: 9fed o Fawrth, 2018
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com