Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

14/03/2018

Storïau treftadaeth a chasglwyr deunyddiau – Welsh Women’s Aid


Mae Forty Voices, Forty Years, yn brosiect treftadaeth gyffrous sy'n cael ei arwain gan Gymorth i Fenywod yng Nghymru ar y cyd â Chanolfan Straeon George Ewart Evans ym Mhrifysgol De Cymru. Nod y prosiect yw casglu hanes Cymorth i Fenywod Cymru a chofio ein gwaith i orffen trais yn erbyn menywod, gyda chasgliad o hanesion llafar, storïau digidol, deunyddiau arddangos ac archif gan ferched a gwasanaethau sydd wedi bod yn allweddol i'n mudiad yng Nghymru.



Bydd y prosiect yn gwella ein dealltwriaeth o'r mudiad trais yn erbyn menywod yng Nghymru, a gwella gwybodaeth y gymuned am drais yn erbyn menywod a'n gwaith i'w atal.



Rydym yn ceisio cefnogaeth gwirfoddolwyr benywaidd gyda sgiliau addas a dealltwriaeth o drais yn erbyn menywod yng Nghymru a diddordeb ynddynt i weithio mewn ardaloedd lleol ledled Cymru i gefnogi'r Forty Voices, Cyswllt Prosiect Deugain Mlynedd. Rhoddir hyfforddiant llawn. Am fwy o wybodaeth ewch i www.welshwomensaid.org.uk/joinus.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com