Mae yna gyfle cyffrous gan Awdurdod Parc Cenedlaethol
Eryri i recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer ein tîm Wardeiniaid Gwirfoddol Yr
Wyddfa sydd wedi ei sefydlu ers rhai blynyddoedd bellach. Bydd aelodau'r tîm yn
cynnig wyneb cyhoeddus cyfeillgar i ymwelwyr ar y llwybrau prysuraf, y copa a
meysydd parcio’r Wyddfa. Bydd y rôl yn cynnwys darparu gwybodaeth, cyngor a
sicrwydd ar y dewis o ran llwybrau ynghyd â diogelwch ar y mynydd; cadw'r
llwybrau prysuraf yn glir o sbwriel ac ymgymryd â gwaith cynnal a chadw
sylfaenol ar y llwybrau.
Byddwch yn gweithio mewn parau ac yn darparu gwybodaeth,
cyngor a sicrwydd mewn modd cyfeillgar i'r cyhoedd ar y dewis o ran llwybrau
ynghyd â diogelwch ar y mynydd. Byddwch hefyd yn cadw'r llwybrau prysuraf yn
glir o sbwriel ac yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar y llwybrau.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com