Oes gennych diddordeb mewn celf a hanes? Oes gennych ychydig o oriau yn rhydd yn ystod
yr wythnos neu’r mis? Bydd cyfle i
unigolion ymuno â ni wrth gefnogi staff Storiel
i gynnig y profiad gorau y gallwn i bawb. Nid oes angen dealltwriaeth helaeth am hanes
a chelf, oherwydd bydd hyfforddiant ar gael.
Bydd cyfarfod a chefnogi ymwelwyr yn elfen fawr o’ch rôl, ac mi fydd
cyfle i gyfarfod pobl o led-led y byd, felly bydd sgiliau rhyngbersonol yn
hanfodol. Rydym yn chwilio am hwyluswyr
i’r orielau hanes, orielau celf, y siop,
derbynfa, y pwynt gwybodaeth i twristiaid a'r gofod dysgu. Rydym yn chwilio am cefnogaeth ar dydd
Mercher 11-5yh a 9-9yh bellach erbyn diwedd mis Ebrill, dydd Iau, Gwener a
Sadwrn 11-5yh.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com