Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

11/01/2018

Gwirfoddolwr Cyffredinol – Kids in Museums


Mae Kids in Museums yn elusen annibynnol sydd wedi’i hymroddi i wneud amgueddfeydd yn fannau agored a chroesawgar i bob teulu, yn arbennig y rheiny sydd heb ymweld o’r blaen.



Mae Kids in Museums Manifesto, Family Friendly Museum Award sy’n croesawu teuluoedd a Takeover Days wedi bod yn hynod lwyddiannus o annog a thywys amgueddfeydd, orielau ar draws y wlad i wneud ymweliadau’n hwyliog ac yn ddiddorol i deuluoedd.



Mae gan Kids in Museums wirfoddolwyr drwy Brydain gyfan. Mae 40 o bobl ar ein tîm o wirfoddolwyr ar hyn o bryd ac yn tyfu drwy’r amser. Gallwch ganfod rhagor am ein gwirfoddolwyr yma; kidsinmuseums.org.uk/about/volunteers



Mae ein gwirfoddolwyr yn cael cyfrifoldebau sy’n cefnogi ein gwaith ac mae rolau yn cynnwys:

• Gwneud adolygiadau

• Cymorth gyda digwyddiadau

• Rhwydweithio a hybu Kids in Museums mewn digwyddiadau



Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com