Cyfle cyffrous ac unigryw i unigolyn neu dîm bychan i
wneud gwahaniaeth go iawn i brofiad ymwelwyr i Storiel, bod yn rhan o’r tîm ac
i ddysgu am weithio gyda gwirfoddolwyr. Bydd hyfforddiant ar gael a chefnogaeth
i weithredu’r cynllun.
Bydd yna gyfle i fod yn greadigol, unai gyda syniadau neu
dylunio- neu’r ddau!
Gall y tasgau newid o ddydd i ddydd, ond yn gyffredinol:
• Hysbysebu
am wirfoddolwyr
• Defnyddio
cyfryngau cymdeithasol
• Bod yn
rhan o dîm i feddwl am ddulliau newydd i ddenu gwirfoddolwyr
• Croesawu
a chefnogi gwirfoddolwyr newydd
• Cyfweld
gwirfoddolwyr gyda’r Cydlynydd
• Casglu
data e.e. oriau gwirfoddolwyr
• Ymgynghori
gyda eraill ar sut gallent gymryd mwy o ran yn Storiel.
Os ydych eisiau profiad o gydlynnu gwirfoddolwyr ar eich
CV, gall hwn fod y rôl perffaith i chi!
Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com