Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

31/01/2018

Arweinydd grwp - Coed Cadnant (Caernarfon) - Woodland Trust




Fel arweinydd byddwch yn arwain tim o wirfoddolwyr ar dasgau ymarferol o fewn y safle coed yn unol â chynllun rheoli ac fel y cytunwyd gyda'r Arweinydd Gweithgor Coetir a'r Rheolwr Gwirfoddolwyr.

Nodau allweddol y rôl yw:

• Arwain a threfnu'r grŵp ar ddiwrnodau gwaith coetir i gyflawni tasgau allweddol

• Cydlynu gyda’r Rheolwr Gwirfoddoli o ran amserlen o weithgareddau ac yn cysylltu gyda'r aelodau gweithgor coetir yn ôl yr angen

• Cofnodi a rhoi adborth i’r Rheolwr Gwirfoddoli ar weithgareddau ac awgrymiau y grŵp

• Arwain y grŵp i gadw at bolisïau a gweithdrefnau allweddol Coed Cadw fel, ond nid yn unig: Iechyd a Diogelwch; Diogelu; Canllawiau Gweithgor Coetir ayyb.

Mae hon yn rôl arweinyddiaeth gwirfoddolwr a fydd yn cyfrannu at y strategaeth Coed Cadw. Fel arweinydd y grŵp byddem yn disgwyl i chi rhyngweithio’n rheolaidd gyda'ch Rheolwr Gwirfoddolwyr enwebedig, a fyddai yn y rhan fwyaf o achosion yn rheolwr safleoedd Coed Cadw. Mae'r rôl hon yn cefnogi eich coetir lleol.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com