Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

11/01/2018

Gwirfoddolwyr Digwyddiadau -Gogledd Orllewin Cymru – Sustrans

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr digwyddiadau a all helpu pobl i fod yn fwy egnïol drwy gerdded neu feicio ar gyfer eu siwrneiau bob dydd.

Fel gwirfoddolwyr gallwch ddewis pa weithgareddau gwirfoddoli y byddwch yn eu trefnu neu’n cymryd rhan ynddynt. Mae gweithgareddau'n cynnwys:

           cynnal stondin wybodaeth
           trefnu teithiau cerdded neu feicio i grwpiau
           creu arddangosfa wybodaeth
           trefnu clinigau cyngor teithio
           rhoi sgyrsiau, sefydlu grwpiau defnyddwyr beic neu grwpiau cerdded
           neu, os oes gennych eich syniadau eich hun ar gyfer gweithgareddau gall y tîm cefnogi hyrwyddwyr weithio gyda chi i’w datblygu.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com