Bydd gwirfoddolwyr yn rhoi cymorth i ddisgyblion am awr
neu ddwy bob wythnos, mewn ysgolion neu leoliadau yn y gymuned, gwrando arnynt
yn darllen, rhoi help ychwanegol gyda Mathemateg neu bynciau eraill. Cymryd
rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau eraill fel garddio, coginio, drama a gweu.
Y peth pwysig yw’r rhyngweithio rheolaidd personol (sy’n cael ei arolygu bob
amser gan athrawon neu staff). Gall 10 munud y diwrnod yn unig yn gwrando ar
blant yn darllen wneud gwahaniaeth mawr i’w gallu a’u hyder cyffredinol.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com