Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

31/01/2018

Angen Cynorthwywyr Adwerthu – Tenovus


Mae ein gwirfoddolwyr manwerthu yn ein helpu i wneud y gwaith yn bosib, ond mae angen mwy o wirfoddolwyr arnom i roi ychydig o'u hamser fel y gallwn helpu mwy o bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser.



Mae yna nifer o gyfleoedd gwirfoddoli yn ein siopau. Gallwch ddewis un o'r rhestr isod neu roi cynnig ar gymaint yr hoffech chi:

* Cynorthwyydd Gwasanaeth Cwsmeriaid

* Casglwr Nwyddau a Roddwyd

* Ffrind Gyrrwr

* Cynorthwyydd Gwerthu Arweiniol

* Cynorthwyydd Codi Arian i'r Siop

* Cynorthwyydd Paratoi Stoc

* Cynorthwyydd Gwerthu Gweledol



Mae’r cyfleoedd yma yn addas i bobl oed 16+.



Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com