Byddwch fel aelod o'r gweithgor coetir yn rhan o dim o wirfoddolwyr ar safle Coed
Cadnant. Pwrpas y rôl yw cynorthwyo gyda chynnal a chadw, gofal a chadwraeth y
safle o fewn canllawiau asesiadau risg ac i gefnogi amcanion y cynllun rheoli
safle.
Nodau allweddol y rôl yw:
• Cefnogi cyd-wirfoddolwyr ar ddiwrnodau i gyflawni tasgau allweddol
• Defnyddio offer a chyfarpar yn ôl yr angen o fewn
canllawiau iechyd a diogelwch, bydd hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu
gan Arweinydd Weithgor Coetir neu'r
Rheolwr Gwirfoddolwyr
• Gweithio ar dasgau yn dilyn arweiniad yr Arweinydd
Gweithgor Coetir a Rheolwr Gwirfoddolwyr
• Gweithio o fewn polisïau a gweithdrefnau Coed Cadw,
fel, ond nid yn unig: Iechyd a Diogelwch; Diogelu; Canllawiau Gweithgor Coetir
a ddarperir gan Arweinydd Weithgor Coetiroedd neu'r Rheolwr Gwirfoddoli ayyb
•Cyfrannu syniadau ar sut i wella’r ardal ar gyfer y
gymuned