Beth am wirfoddoli gyda ni i ofalu am ran o'r Rhwydwaith
Beicio Cenedlaethol yn eich ardal. Disgwylir i chi gyflawni tasgau megis gwirio
arwyddion ar goll neu eu torri a'u disodli, tacluso a chlirio llystyfiant gan
roi gwybod am unrhyw faterion pwysig ar y llwybrau, mynychu diwrnodau gwaith
grŵp. Mae yna lawer o gyfleoedd hefyd o fewn y rôl i helpu i hyrwyddo cerdded a
beicio yn eich cymuned leol trwy weithgareddau megis mynychu digwyddiadau ac
arwain teithiau cerdded a beicio.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr newydd lleol sy'n
brwdfrydig ac sy'n defnyddio'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rheolaidd .
Gofynnir i chi wirio'ch rhan o'r llwybr unwaith y mis ac adrodd yn ôl.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286
672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com