Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

24/01/2018

Gwirfoddolwr Prosiect – Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol – Mencap


Yn eich rôl fel gwirfoddolwr byddwch yn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu ac yn helpu i ddehongli a rhannu straeon pwysig ar y thema gyfeillgarwch a pherthnasoedd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

Gall hynny gynnwys:

  Mynychu gweithdai misol.

  Mynychu grŵp ar gyfer pobl ag anableddau dysgu er mwyn cwrdd â phobl arall sy’n cyfrannu at y prosiect.

  Gwrando ar straeon cyn pob gweithdy a meddwl am y ffordd maen nhw’n gwneud i chi deimlo a beth sy’n gwneud y stori’n bwysig.

  Rhannu unrhyw sgiliau a gwybodaeth sydd gennych allai fod yn berthnasol i’r prosiect.

  Helpu i gynllunio a hyrwyddo’r arddangosfeydd dros dro a gwasgaredig.

  Staffio ein arddangosfeydd dros dro a gwasgaredig.



Hoffem petaech yn mynychu ein cyfarfodydd gwirfoddolwyr misol am oddeutu 2-3 awr ar ddydd Sadwrn. Cynhelir y cyfarfodydd mewn amgueddfeydd yn y pedair tref benodol, felly rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n byw yn ardal Bangor


Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com