Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

04/08/2015

Cefnogwr Grŵp Byddar - National Deaf Children's Society

Rydym yn edrych am wirfoddolwyr Byddar i gefnogi plant a phobl ifanc Byddar yn ein digwyddiadau yn rôl y Cefnogwyr Grŵp Byddar.

Yn y rôl hon byddwch yn cynorthwyo mewn 2-3 digwyddiad neu 1-2 ddigwyddiad bob mis, yn dibynnu ar eich diddordeb a’ch argaeledd. Cynhelir y digwyddiadau ledled y DU a bydd angen i chi fod yn barod i deithio y tu allan i’ch ardal.

Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc byddar i fod yn hapus ac yn iach mewn digwyddiadau. Byddwch yn goruchwylio plant a phobl ifanc byddar a’u cadw’n ddiogel. Byddwch yn esiampl bositif i’r plant.

Os oes gennych brofiad blaenorol gyda phlant a chyda diddordeb mewn gwirfoddoli gyda phlant byddar, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com