Gwnewch y byd ychydig yn fwy caredig! Treuliwch ddiwrnod gyda myfyriwr rhyngwladol sy’n oedolyn, gan ddysgu am ei ddiwylliant a dangos iddo eich diwylliant chi a’i wahodd i brofi eich bywyd cartref.
Bydd gwesteiwyr gwirfoddol yn gwahodd myfyrwyr i aros fel y bo modd i’r myfyrwyr brofi Prydain ‘go-iawn’, oddi wrth y brifysgol a thwristiaeth ddwys. Bydd hyn yn galluogi iddynt gyfarfod â phobl newydd a dysgu am amrywiol ddiwylliannau o bedwar ban byd.
Dewiswch ba mor aml rydych am wahodd pobl, faint o bobl rydych am eu gwahodd (unigolion, parau neu deuluoedd) ac os hoffech gyfarfod â rhywun o wlad benodol. Caiff myfyrwyr a gwesteiwyr eu paru ar sail diddordebau ac argaeledd gan Drefnydd Rhanbarthol, a fydd hefyd yn eich helpu i gofrestru.
Nid oes unrhyw ddisgwyliadau penodol ar ran y gwesteiwr, dim ond y dylid gwneud i’r myfyriwr deimlo’n rhan o’ch teulu am y cyfnod byr. Felly, os hoffech fwynhau gweithgaredd anarferol sy'n rhoi boddhad ichi, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com