Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

04/08/2015

Arweinydd/Cynorthwyydd Gwirfoddol - Partneriaeth Awyr Agored

Mae sawl clwb awyr agored dros Gonwy yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr. Gall y gweithgareddau gynnwys caiacio, syrffio, cerdded mynyddoedd, dringo, beicio a chwaraeon beic.

Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com