Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

25/08/2015

Gwirfoddolwr Ifanc Cyflwynydd Sgiliau Byw Gogledd Cymru - RNLI

Mae'r RNLI wedi ymrwymo i addysgu plant ac i ysgogi cenhedlaeth newydd o gefnogwyr ac achubwyr bywyd posibl. Rydym yn chwilio am nifer o wirfoddolwyr sy'n frwdfrydig ac sydd â diddordeb mewn rhoi cyflwyniadau a gweithio gyda phobl ifanc. Byddwch yn cael cyfle i gwrdd â phobl newydd, yn defnyddio eich sgiliau presennol ac ennill sgiliau a phrofiadau newydd.

Bydd y rôl yn gyfle i gyflwyno sesiynau rhyngweithiol byr ar ddiogelwch ar y traeth i grwpiau bach o blant oed ysgol yn ogystal â meithrin eu dealltwriaeth o'r RNLI a'r rôl y mae'n ei chwarae o fewn ein cymuned. Nid oes angen profiad blaenorol gan fod hyfforddiant ar ddiogelwch traeth a bydd yr RNLI yn cael ei ddarparu.

Ein nod yw achub bywydau gyda dull rhagweithiol i faterion diogelwch ar y môr / traeth yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r RNLI ymysg pobl ifanc yng Ngogledd Cymru.  Am fanylion pellach cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu carwyn@mantellgwynedd.com