Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

27/09/2017

Gwirfoddolwr Marchnata / Rheoli Data – Storiel

Cynorthwyo i greu a chynnal cynllun marchnata i Storiel.

Gall y tasgau newid o ddydd i ddydd, ond yn gyffredinol: Cyfweld aelodau o’r tîm (staff a gwirfoddolwyr), cyflenwyr a cwsmeriaid ar gyfer y cylchlythyr, defnyddio cyfryngau cymdeithasol, canfod dyddiau pwysig i’r casgliad e.e. y dydd hwn mewn hanes, bod yn rhan o dîm i feddwl am ddulliau marchnata newydd, creu fidio syml, cyfieithu byr yn gywir, ymchwilio i bynciau fel yr angen.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com