Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

27/09/2017

Ewch yn Binc! Gwirfoddolwr BCAM - Tenovus Cancer Care


Rydym yn chwilio am awr o'ch amser, neu fwy os fedrwch chi, mewn casgliad bwced yn eich ardal chi i annog pobl yn eich cymuned i sbario rhywfaint o'u newid.  Gallwn drefnu chi i fynd at eich casgliad agosaf neu gallwch chi drefnu un eich hun.  Beth am annog rhai o'ch teulu a ffrindiau i ymuno yn yr hwyl a chodi hyd yn oed mwy o arian?  Os nad yw casglu arian yn rhywbeth chi'n hoff ohono, peidiwch â phoeni! Gallwch barhau i gael hwyl a chodi arian gyda ni mewn ffyrdd eraill! Beth am drefnu 'gwisgo lan mewn pinc' neu 'pobi cacen binc' yn y gwaith neu'r ysgol? Gallwch wisgo mewn gwisg binc neu wisg ffansi, neu ganu cân - rydym am i chi gael hwyl wrth godi gymaint o arian ag y gallwch.  Cofiwch, po fwyaf fydd yr hwyl, mwyaf parod bydd y bobl yn teimlo eu bod am wisgo mewn pinc, ymuno a rhoi!  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com