Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

07/09/2017

Casglwyr Archfarchnadoedd – Marie Curie


Apêl at unigolion neu grwpiau o bobl i rhoi awr neu ddwy o'u hamser i ddod draw i'n Apêl Fawr Cennin Pedr, casgliadau Haf a Nadolig, ac yn cael eu cynnal yn yr archfarchnadoedd lleol a'r strydoedd mawr. 

Byddwn yn rhoi gwybod i'r casglwyr am y dyddiadau a lleoliadau sydd ar gael. 

Mae'r holl ddeunyddiau sydd eu hangen i gymryd rhan yn y casgliad ar gael yn y safleoedd casglu gan gynnwys tun casglu / bwced, cennin pedr neu sticeri,  tabard casglwyr a het. 

Mae'n ofynnol i'r casglwr sefyll mewn man penodedig a sicrhau eu bod ar gael i dderbyn rhoddion gan bobl sy'n mynd heibio ac iddynt dderbyn Daffodil Marie Curie neu sticer. 

Mae'r holl arian a godir yn lleol yn cael ei ddefnyddio yn lleol i gefnogi  gwasanaeth nyrsio Marie Curie. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com