Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

27/09/2017

Cynorthwyydd Sesiynau Hwyl Cynnal Gofalwyr – Cynnal Gofalwyr


Mae Cynnal Gofalwyr yn fudiad sy'n cefnogi rhieni a gofalwyr dros 18 oed yn ardal Gogledd Gorllewin Cymru.

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu yn ystod ein sesiynau gweithgareddau. 

Byddwch yn y sesiynau hyn yn cefnogi rhieni a phlant / pobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys crefft, chwarae a chynnig cefnogaeth a gwybodaeth. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com