Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

07/09/2017

Cadeirydd Grŵp Codi Arian (18+) – Marie Curie


Bydd Grwpiau Codi Arian yn trefnu casgliadau a digwyddiadau codi arian ac annog y gymuned leol i gefnogi Gofal Canser Marie Curie. Trwy eich arweinyddiaeth, bydd y grŵp yn gwneud y gorau o bob cyfle i godi arian yn eich ardal. Byddwch yn helpu i greu tîm codi arian cydlynol sy’n canolbwyntio ar godi cymaint ag y gellir o arian ar gyfer Gofal Canser Marie Curie. Mae angen i chi:

• Helpu’r Grŵp i gynllunio a threfnu calendr o ddigwyddiadau codi arian.

• Arwain y grŵp yn ei holl weithgareddau.

• Annog pobl i gefnogi Gofal Canser Marie Curie, a sefydlu a chynnal perthnasau â chefnogwyr lleol.

• Recriwtio a chroesawu aelodau newydd i’r grŵp pan fydd angen.

• Cadeirio cyfarfodydd y grŵp gan sicrhau y caiff pob safbwynt ei ystyried.

• Cadw’r cyfarfod yn drefnus a sicrhau fod y penderfyniadau a’r camau gweithredu yn glir i holl aelodau’r grŵp.

• Hysbysu’r Swyddog Codi Arian Cymunedol am weithgareddau’r grŵp a chael cymeradwyaeth i gynnal digwyddiadau.

• Ymateb i ymholiadau'r cyhoedd. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com