Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig fyddai'n gallu
ymrwymo i gynorthwyo i glirio a sefydlu gardd cegin fawr ar Stad y Faenol,
Bangor. Mae'r ardal ar hyn o bryd wedi gor dyfu a bydd y gwaith cychwynnol yn cynnwys clirio a pharatoi ar gyfer ardal tyfu
planhigion/llysiau. Nid oes angen profiad blaenorol ond byddwn yn croesawu
ceisiadau gan unigolion sydd gyda profiad yn y maes hwn.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com