Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

27/09/2017

Gwirfoddolwr Codi Arian Prosiect Cymunedol – Y Gymdeithas Strôc


Ydych chi'n chwilio am gyfle hyblyg a chyffrous? A oes angen prosiect arnoch fydd yn cyfrif tuag at eich oriau gwirfoddoli ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Cymru neu gynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm? Os felly, yna gallai hyn fod yn gyfle delfrydol i chi!

Ymunwch â'r Gymdeithas Strôc i wirfoddoli drwy gynllunio, cynnal a gwerthuso eich digwyddiad codi arian eich hun. Bydd y cyfle gwirfoddoli hwn yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau rheoli digwyddiadau ac yn eich helpu i ddysgu sut i wneud y gorau o'ch adnoddau a'ch pherthnas gyda phobl eraill yn eich cymuned leol.

Gwnewch rhywbeth gwahanol heddiw a helpwch i godi proffil y Gymdeithas Strôc yng ngogledd Cymru fel y gallwn fod yno i gefnogi goroeswyr strôc a'u teuluoedd. Gyda'n gilydd gallwn goncro strôc!  Mae’r cyfle yma yn addas i bobl oed 16+.

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com