Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

07/09/2017

Aelod Tim - Dysgu pobl sut i ddefnyddio'r we – Citizens Online


Mae angen gwirfoddolwyr i helpu redeg sesiynau galw heibio - ble gall aelodau o'r cyhoedd alw draw am gyngor neu help gyda phroblem ddigidol - sut i fynd ar-lein, defnyddio peiriannau chwilio, e-bost a defnydd cyffredinol. Nid ydym yn chwilio am ddewiniaid technegol, ond pobl sy'n mwynhau helpu pobl eraill, ac wedi meistroli defnydd cyffredinol o'r rhyngrwyd. Byddwch yn rhan o dîm a fydd yn rhoi awr neu ddwy o'ch amser yn y gymuned i ateb ymholiadau cyffredinol ac i gynnig cymorth gyda phroblemau sylfaenol y daw dechreuwyr ar eu traws. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com