Mae EPP Cymru yn fenter GIG sydd yn cyflwyno cyrsiau am
ddim i bobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd tymor hir a gofalwyr. Mae'n helpu
pobl i ddysgu sgiliau newydd er mwyn gwella ansawdd eu bywydau.
Rydym yn gyson yn chwilio am bobl i ymuno â'n tîm o
diwtoriaid gwirfoddol i redeg ein cyrsiau yn y gymuned. Mae angen i bob
gwirfoddolwr cael brofiad personol o fyw gyda chyflwr iechyd tymor hir neu o
fod yn ofalwr ac mae'n rhaid cwblhau cwrs 6 wythnos fel cyfranogwr cyn ei
hyfforddiant. Mi fydd hyfforddiant i gyflwyno'r cwrs yn cael ei ddarparu ac
fydd treuliau parod yn cael eu had-dalu.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com