Byddwch yn synnu faint o arian sy'n cael ei roi trwy
flychau casglu o fewn y gymuned leol. Fel Cydlynydd Casglu Arian, chi fydd yn
gyfrifol am eich rhwydwaith eich hun o flychau yn eich ardal leol - boed mewn
siop leol neu ganolfan hamdden. Po fwyaf o flychau gallwch osod a chasglu, y
mwyaf o arian y byddwch yn codi ar gyfer Marie Curie.
Fel Cydlynydd Casglu Arian byddwch yn ymweld â safleoedd
sy'n bodoli eisoes ychydig o weithiau y flwyddyn i gyfnewid tuniau llawn ar
gyfer rhai gwag ac yn defnyddio eich gwybodaeth leol i chwilio am leoliadau
newydd. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y Apêl Fawr Cennin Pedr ym
mis Mawrth, trwy helpu i osod a chasglu blychau cenin pedr.
Boed yn dun casglu neu flwch cennin pedr, y cam nesaf yw
cyfrif a bancio y rhoddion a chwblhau'r gwaith papur angenrheidiol.
Mae'r rôl hon yn hyblyg ac yn amrywiol, gallwch drefnu
eich amser fel bod eich gwaith gwirfoddol cyd-fynd â'ch bywyd.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar
01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com