Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

29/11/2017

Arweinydd Adnabod Eich Risg – Diabetes UK Cymru

Byddwch yn ymgysylltu gyda aelodau'r cyhoedd a rhanddeiliaid a byddwch yn ymwneud â gwahanol weithgareddau ymwybyddiaeth ac atal clefyd siwgr i dynnu sylw at ffactorau risg Math 2 o glefyd siwgr. Fel gwirfoddolwr, byddwch yn ymgysylltu â phobl a'u cynorthwyo i ddarganfod eu risg o ddatblygu Math 2 o'r clefyd a darparu gwybodaeth a chyngor ar wahanol bynciau fel dealltwriaeth o glefyd siwgr, a manteision gweithgareddau corfforol i atal ei ddechrau a'r gwasanaethau gall Diabetes UK gynnig i rai sy'n byw gyda chlefyd siwgr. Byddwch yn annog ein cymunedau i newid eu hymddygiad ac arferion a allai fod yn niweidiol er mwyn lleihau eu risg o'r Math 2 o glefyd siwgr a rheoli eu lefel glwcos yn y gwaed yn well er mwyn osgoi cymhlethdodau sy'n bygwth bywyd.www.diabetes.org.uk/knowyourrisk

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com