Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

23/11/2017

Gwirfoddolwyr llinell gymorth (cyfle i ferched yn unig) – Welsh Women’s Aid


I ddarparu gwasanaeth gyfrinachol, gwybodaeth a chyfeirio ymlaen dros y ffôn i bobl sy’n dioddef camdriniaeth yn y cartref a thrais rhywiol yn ogystal â’r rhai sy’n cysylltu ar eu rhan.

Gwerthuso a lleihau y risg i alwyr sy’n dioiddef o gamdriniaeth yn y cartref a thrais rhywiol.

Cyfeirio galwyr at wasanaethau cefnogol addas gan ddefnyddio system chwilio am loches Cymorth i Ferched fel mae angen.

Cynnal gwybodaeth cywir ar alwadau a dderbynir a chadw at reolau cyfrinachedd a’r Ddeddf Diogelu Data.

CYNHELIR DIWRNOD AGORED AR GYFER RECRIWTIO YM MIS RHAGFYR 2017

Am fanylion pellach, cysylltwch efo Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com