Cofrestru Diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd yma neu unrhyw gyfle arall cysylltwch â Carwyn, Gwenllian neu Ann yn y Ganolfan Gwirfoddoli ar:
01286 672626 / 01341 422575
neu llenwch y ffurflen Cofrestru Diddordeb

29/11/2017

Gwesteiwr Ymwelwyr – Amgueddfa Lloyd George


Bydd Amgueddfa Lloyd George yn cynnal digwyddiad arbennig ar Ragfyr 1af 2017 ac rydym yn chwilio am wirfoddolwyr a fyddai'n mwynhau cynnal rhan benodol o'r amgueddfa a'r bedd i westeion VIP. Mae hyn yn golygu gallu siarad yn hyderus am ran o'r amgueddfa yr ydych yn gofalu amdano ar gyfer y digwyddiad i bobl mewn awdurdod a / neu cyhoeddus. Byddwn yn anelu at roi gwirfoddolwyr mewn parau o gwmpas yr amgueddfa - yn y brif amgueddfa ei hun, yn Highgate a'r gweithdy (cartref plentyndod Lloyd George), bedd Lloyd George a'r tir o gwmpas. Trefnir diwrnod hyfforddi ym mis Tachwedd 2017 ac mae gwybodaeth am yr amgueddfa, Lloyd George a'i blentyndod a'i yrfa gynnar yng ngogledd Cymru ar gael ar y rhyngrwyd. 

Am fanylion pellach, cysylltwch â Mantell Gwynedd ar 01286 672626 neu gwirfoddoli@mantellgwynedd.com